Senior Analyst - Intelligence and Analysis


Premium Job From Independent Monitoring Authority

Recruiter

Independent Monitoring Authority

Listed on

23rd June 2020

Location

Swansea

Salary/Rate

£30989 - £41095

Type

Permanent

Start Date

ASAP

This job has now expired please search on the home page to find live IT Jobs.

Influence the direction of a brand-new public body The Independent Monitoring Authority for Citizens' Rights is a brand-new public body. Our role will be to monitor the UK's implementation and application of the agreements made by our Government with the EU, and EEA/EFTA states, to guarantee the rights of their citizens living in the UK, now that we have left the EU. To fulfil this crucial commitment, the IMA needs to be fully operational by 31 December 2020. So, joining us gives you an exciting opportunity to help shape, at pace, the way we deliver on our responsibilities. Both challenging and professionally rewarding - a career-defining opportunity As a Senior Analyst, you'll be part of the Intelligence and Analysis Team supporting all aspects of the IMA's work. Developing data reports and providing insights to support operational decisions, this will include analysing trends in complaints received to identify potential systemic issues. Helping to ensure the IMA collects all appropriate data and information, you'll work with strategy and communications colleagues to build an external picture of potential issues with stakeholders, government departments and public authorities and monitor compliance with their agreed actions. Using analytical techniques to support the development of new management information and creating reports to support the IMA, you'll use your expertise to help develop the role of the Intelligence and Analysis team. You'll also grow the IMA's analytical capability by developing and delivering training to both specialist and non-specialist staff. What you'll bring To apply, you'll need an undergraduate degree at a minimum of 2:1, or 2:2 with relevant work experience or a postgraduate degree. This degree should be in a relevant numerate or social science discipline. We're looking for you to bring excellent quantitative and qualitative analytical skills, with experience of conducting analytical projects and using evidence to inform decision-making. As well as being confident in working with senior colleagues, you must be able to build relationships with, and influence, a wide range of stakeholders. This should include demonstrating the ability to work across different government departments and public bodies to achieve the best results. Benefits Join us, and you'll receive a competitive benefits package that includes generous annual leave, valuable learning and development opportunities and a highly desirable contributory pension scheme. Our maternity and paternity leave is considerably more than the statutory minimum, and our multiple staff wellbeing initiatives (including flexible working options) ensure a good work/life balance. For more details and to apply, visit our website. Closing date: 10 July 2020. We are an equal opportunity employer and value diversity at our company. We do not discriminate on the basis of race, religion, colour, national origin, gender, sexual orientation, age, marital status or disability status. Uwch Ddadansoddwr - Deallusrwydd a Dadansoddi
Canolfan Ddinesig Abertawe, Abertawe SA1 3SN
Dylanwadu ar gyfeiriad corff cyhoeddus newydd sbon Mae'r Awdurdod Monitro Annibynnol (IMA) ar gyfer Hawliau Dinasyddion yn gorff cyhoeddus newydd sbon. Ein rôl ni fydd monitro sut mae'r DU yn gweithredu ac yn defnyddio'r cytundebau a wnaed gan ein Llywodraeth gyda'r UE, a gwladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd/Ardal Masnach Rydd Ewrop, i sicrhau hawliau dinasyddion sy'n byw yn y DU nawr ein bod ni wedi gadael yr UE. I gyflawni'r ymrwymiad hollbwysig hwn, mae angen i'r IMA fod yn gwbl weithredol erbyn 31 Rhagfyr 2020. Felly, mae ymuno â ni yn rhoi cyfle cyffrous i chi helpu i lywio'r ffordd rydyn ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau, a hynny'n gyflym. Cyfle i ddiffinio'ch gyrfa, sy'n eich herio ac yn rhoi boddhad proffesiynol i chi Fel Uwch Ddadansoddwr, byddwch yn rhan o'r Tîm Deallusrwydd a Dadansoddi sy'n cefnogi pob agwedd ar waith yr IMA. Bydd y gwaith yn cynnwys llunio adroddiadau data a darparu deallusrwydd i gefnogi penderfyniadau gweithredol, yn ogystal â dadansoddi tueddiadau yn y cwynion sydd wedi dod i law er mwyn adnabod problemau systemig posibl. Gan helpu i sicrhau bod yr IMA yn casglu'r holl wybodaeth a'r data priodol, byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes strategaeth a chyfathrebu i lunio darlun allanol o broblemau posibl gyda rhanddeiliaid, adrannau o'r llywodraeth ac awdurdodau lleol, yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth â'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt. Gan ddefnyddio technegau dadansoddi i helpu i ddatblygu gwybodaeth reoli newydd a llunio adroddiadau i gefnogi'r IMA, byddwch yn defnyddio eich arbenigedd i ddatblygu rôl y tîm Deallusrwydd a Dadansoddi. Byddwch hefyd yn ehangu gallu dadansoddol yr IMA drwy ddatblygu a darparu hyfforddiant i staff arbenigol ac anarbenigol. Beth fyddwch chi'n ei gynnig I wneud cais, bydd angen gradd israddedig 2:1 neu 2:2 o leiaf arnoch chi, gyda phrofiad gwaith perthnasol neu gymhwyster ôl-radd. Dylai'r radd hon fod mewn disgyblaeth berthnasol ym maes rhifedd neu'r gwyddorau cymdeithasol. Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd â sgiliau dadansoddi meintiol ac ansoddol rhagorol, yn ogystal â phrofiad o gynnal prosiectau dadansoddi a defnyddio tystiolaeth i roi sail i benderfyniadau. Yn ogystal â bod yn hyderus yn gweithio gydag uwch gydweithwyr, bydd angen i chi allu meithrin perthnasoedd gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a dylanwadu arnynt. Dylai hyn gynnwys mynd ati i ddangos eich bod yn gallu gweithio ar draws gwahanol adrannau o'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau'r canlyniadau gorau. Buddiannau Ymunwch â ni ac fe gewch chi becyn buddiannau cystadleuol sy'n cynnwys gwyliau blynyddol hael, cyfleoedd dysgu a datblygu gwerthfawr, a chynllun pensiwn cyfrannol deniadol iawn. Mae ein habsenoldeb mamolaeth a thadolaeth yn sylweddol fwy na'r isafswm statudol, ac mae ein mentrau llesiant staff niferus (sy'n cynnwys opsiynau gweithio hyblyg) yn sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ewch i'n gwefan. Dyddiad cau:   Noder, adolygir lefelau ymgeisio yn barhaus ac efallai y bydd dyddiadau cau yn newid os bydd llawer o ddiddordeb. Fe'ch cynghorir i gyflwyno eich cais mewn da bryd cyn y dyddiad cau. Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2020. Rydyn ni'n gyflogwr cyfle cyfartal ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein cwmni. Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol na statws anabledd.

You are currently using an outdated browser.

Please consider using a modern browser such as one listed below: